00:00:05,000 --> 00:00:06,520
Helo, bawb.
00:00:06,560 --> 00:00:08,160
Charlotte Williams ydw i.
00:00:08,200 --> 00:00:11,880
Rwy'n Athro emeritws
ym Mhrifysgol Bangor...
00:00:11,920 --> 00:00:14,600
..ac rydw i wedi bod yn ymwneud
â'r adnodd hwn...
00:00:14,640 --> 00:00:17,160
..fel adolygydd cymheiriaid
a chynghorydd.
00:00:17,200 --> 00:00:18,920
Cefais fy magu yn Llandudno...
00:00:18,960 --> 00:00:22,560
..ac mae fy holl addysg wedi bod
yn Llandudno yng ngogledd Cymru.
00:00:22,600 --> 00:00:27,160
Rydw i wedi gweithio fel swyddog
tai, gweithiwr iechyd...
00:00:27,200 --> 00:00:30,280
..gweithiwr cymdeithasol
ac athrawes yng Nghonwy...
00:00:30,760 --> 00:00:32,960
..cyn i mi fynd i'r bywyd
academaidd...
00:00:33,000 --> 00:00:36,400
..ac mae fy ngwaith academaidd
wedi canolbwyntio'n fawr...
00:00:36,440 --> 00:00:39,640
..ar feddwl am wrth-hiliaeth
yng nghyd-destun Cymru...
00:00:39,680 --> 00:00:44,080
..gan weithio gyda sefydliadau
sydd wedi ymrwymo i'r syniad...
00:00:44,120 --> 00:00:45,720
..o Gymru wrth-hiliol.
00:00:47,040 --> 00:00:49,200
Pam fod yr adnodd hwn
yn ddefnyddiol?
00:00:51,200 --> 00:00:53,400
Rwy'n llawn cyffro
am yr adnodd hwn...
00:00:53,440 --> 00:00:56,800
..oherwydd rwy'n meddwl ei fod
yn adnodd ymarferol iawn.
00:00:56,840 --> 00:01:02,520
Mae'n adnodd perthnasol iawn, ac
mae'n adnodd sy'n mynd i adeiladu...
00:01:02,560 --> 00:01:08,520
..ar eich dealltwriaeth oherwydd mae
ymarferion, awgrymiadau ymarferol...
00:01:08,560 --> 00:01:13,120
..pwyntiau myfyrio, a bydd pob un
ohonyn nhw'n canolbwyntio'n fawr...
00:01:13,160 --> 00:01:15,800
..ar yr hyn rydych yn ei wneud
o ddydd i ddydd.
00:01:17,280 --> 00:01:19,400
Pam ydyn ni'n darparu'r adnodd hwn?
00:01:21,400 --> 00:01:24,320
Pan fydda i'n ymgysylltu â chymorth
dysgu fel hwn...
00:01:24,360 --> 00:01:27,160
..rydw i eisiau deall yn iawn
pam fy mod yn ei wneud.
00:01:27,200 --> 00:01:29,800
Ac rwy'n meddwl bod yna ychydig
o resymau da...
00:01:29,840 --> 00:01:32,400
..pam y dylech chi feddwl am hyn.
00:01:33,200 --> 00:01:39,200
Y cyntaf yw bod yr adnodd hwn
yn delio â hiliaeth...
00:01:40,000 --> 00:01:44,720
..a'r ffaith yw nad yw hiliaeth
bob amser yn bwrpasol.
00:01:44,760 --> 00:01:48,160
Gall fod yn anfwriadol...
00:01:48,200 --> 00:01:51,760
..yn ddiniwed o ran bwriad...
00:01:51,800 --> 00:01:55,040
..ond yn dal i gael effaith fawr
ar eraill.
00:01:56,360 --> 00:02:01,120
Ac mae'n gallu cael ei wreiddio yn
ffordd sefydliad o wneud pethau...
00:02:01,160 --> 00:02:04,480
..yn yr hyn rydych yn ei wneud
a'r ffyrdd rydych yn eu gwneud.
00:02:04,520 --> 00:02:09,000
A gall hynny gael effaith negyddol
ar rai unigolion.
00:02:09,080 --> 00:02:13,240
Felly mae angen i ni gamu yn ôl
a meddwl ychydig am hynny.
00:02:14,520 --> 00:02:17,000
Yr ail reswm rwy'n meddwl
ei fod yn bwysig...
00:02:17,040 --> 00:02:19,440
..yw oherwydd ein bod ni i gyd
yn wahanol...
00:02:19,480 --> 00:02:21,280
..ac mae gwahaniaeth yn bwysig.
00:02:21,320 --> 00:02:25,160
Ac rwy'n hoffi rhoi enghraifft
fy nghribau.
00:02:25,240 --> 00:02:27,680
Dyma fy nghrib i a chrib yw hwn.
00:02:27,880 --> 00:02:30,400
Ac os nad oedd fy ngwallt
mor daclus heddiw...
00:02:30,440 --> 00:02:34,560
..byddwn yn ei gribo
gyda'm crib affro.
00:02:35,240 --> 00:02:39,800
Ac mae'r enghraifft fach honno'n
dangos y gwahaniaeth...
00:02:40,000 --> 00:02:44,280
..rhyngon ni i gyd a pham mae angen
inni fod yn sylwgar i hynny.
00:02:44,640 --> 00:02:46,960
Ac os ydyn ni'n anwybyddu
gwahaniaeth...
00:02:47,000 --> 00:02:48,600
..yna gallwn wneud niwed.
00:02:48,640 --> 00:02:50,280
Gallwn wneud niwed i bobl.
00:02:50,320 --> 00:02:54,240
Gallwn eu cau allan yn anfwriadol.
00:02:56,320 --> 00:02:58,520
Y trydydd rheswm
pam fy mod yn meddwl...
00:02:58,560 --> 00:03:02,160
..bod yr adnodd hwn yn bwysig
yw ei fod yn ymwneud â'ch ymarfer...
00:03:02,200 --> 00:03:05,320
..eich gwaith, a'ch synnwyr
o'ch gwerth yn eich gwaith.
00:03:05,360 --> 00:03:11,240
Mae eich sgil, eich arbenigedd,
a'ch ymagwedd yn bwysig...
00:03:11,280 --> 00:03:14,880
..ac rydych chi eisiau iddynt
fod y gorau y gallan nhw fod...
00:03:15,240 --> 00:03:18,800
..o ran gofalu am oedolion bregus
neu blant bregus...
00:03:19,160 --> 00:03:22,440
..neu'r rhai yn eich gofal
rydych chi'n ceisio eu cefnogi.
00:03:22,480 --> 00:03:27,800
Ac felly, mae'n dda gwella'ch dysgu
am beth yw hiliaeth...
00:03:27,840 --> 00:03:29,760
..a sut mae'n effeithio ar eraill.
00:03:29,800 --> 00:03:32,800
Mae'n bwysig. Mae wir yn bwysig.
00:03:33,000 --> 00:03:34,600
Felly gwnewch eich gorau.
00:03:35,080 --> 00:03:38,080
Cymerwch amser i weithio
drwy'r adnodd...
00:03:38,120 --> 00:03:41,120
..ac ymgysylltu â'r myfyrdodau hyn.
00:03:42,000 --> 00:03:43,560
Diolch yn fawr.
00:03:44,520 --> 00:03:46,200
I ffwrdd â ni!