00:00:00:24 - 00:00:03:23
Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru lawer o wybodaeth
00:00:03:23 - 00:00:07:21
ac adnoddau defnyddiol i gefnogi cyflogwyr gofal cymdeithasol.
00:00:08:01 - 00:00:11:10
Ac er mwyn eich helpu chi i gael gafael ar bopeth sydd ei angen arnoch,
00:00:11:10 - 00:00:13:14
rydyn ni wedi rhoi popeth mewn un lle
00:00:13:14 - 00:00:16:03
ar dudalennau gwe Cynnig i Gyflogwyr.
00:00:16:12 - 00:00:18:15
Mae’r Cynnig i Gyflogwyr yn ffordd hawdd i chi
00:00:18:15 - 00:00:20:13
gael gafael ar wybodaeth hanfodol,
00:00:20:13 - 00:00:24:01
ac mae'r tudalennau gwe wedi eu rhannu yn dair adran:
00:00:24:16 - 00:00:26:12
Rheoleiddio yw’r adran gyntaf,
00:00:26:19 - 00:00:29:00
ac rydyn ni wedi casglu adnoddau i’ch helpu chi
00:00:29:00 - 00:00:31:05
i ddiwallu eich anghenion rheoleiddio.
00:00:31:16 - 00:00:34:13
Yma gellir cael gafael ar y Codau Ymarfer Proffesiynol
00:00:34:13 - 00:00:36:23
i weithwyr a chyflogwyr gofal cymdeithasol.
00:00:37:06 - 00:00:38:24
Mae’r rhain yn gosod y safonau i’r bobl
00:00:38:24 - 00:00:41:07
sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol
00:00:41:07 - 00:00:44:07
ac yn allweddol wrth ddarparu gofal a chymorth da.
00:00:44:16 - 00:00:49:16
Gallwch chi reoli eich cofrestriadau eich hunain a’ch staff drwy GCCarlein.
00:00:49:16 - 00:00:52:16
Gallwch chi fynd at y Gofrestr i wirio cofrestriad gweithiwr
00:00:52:16 - 00:00:55:09
er mwyn sicrhau eu bod nhw’n bodloni’r gofynion i weithio
00:00:55:09 - 00:00:57:20
mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.
00:00:58:09 - 00:01:01:20
Os ydych chi angen gwybodaeth am y broses addasrwydd i ymarfer,
00:01:01:20 - 00:01:03:17
eu os hoffech chi wneud cyfeiriad,
00:01:03:17 - 00:01:07:01
gallwch chi ffeindio popeth sydd ei hangen arnoch ar ein gwefan.
00:01:07:14 - 00:01:11:08
Mae nifer o adnoddau ar gael i’ch helpu chi i gefnogi eich gweithlu.
00:01:11:08 - 00:01:14:02
Mae canllawiau am gymwysterau ar gyfer dysgwyr,
00:01:14:02 - 00:01:18:09
rheolwyr a chyflogwyr ar gael a fydd yn eich helpu chi ar hyd eich taith.
00:01:19:01 - 00:01:21:05
Mae gwybodaeth ddefnyddiol am sut i ddenu,
00:01:21:05 - 00:01:24:11
recriwtio a chadw staff ym maes gofal cymdeithasol
00:01:24:11 - 00:01:26:16
ar gael ar wefan Gofalwn Cymru.
00:01:26:24 - 00:01:31:03
Mae yna hefyd borth swyddi lle gallwch chi hysbysebu swyddi gwag am ddim.
00:01:31:21 - 00:01:35:03
Mae casgliad eang o wybodaeth a chefnogaeth ar lesiant,
00:01:35:03 - 00:01:37:21
gan gynnwys adnoddau sy’n ymwneud a llesiant meddyliol,
00:01:37:21 - 00:01:39:18
corfforol ac ariannol.
00:01:40:10 - 00:01:44:15
Mae ein gwaith ni hefyd yn cynnwys eich helpu chi i wella eich gwasanaethau.
00:01:44:15 - 00:01:47:09
Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau a sesiynau hyfforddiant,
00:01:47:09 - 00:01:50:09
ar-lein ac wyneb yn wyneb ym mhob rhan o Gymru.
00:01:50:19 - 00:01:53:14
Rydyn ni hefyd yn darparu adnoddau i'ch cynorthwyo chi
00:01:53:14 - 00:01:56:06
a’ch staff i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.
00:01:56:19 - 00:01:59:18
Mae ein modiwlau e-ddysgu yn gallu eich helpu i ddatblygu eich
00:01:59:18 - 00:02:01:19
gwybodaeth am amryw o bynciau,
00:02:02:11 - 00:02:06:11
gan gynnwys diogelu ac ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau.
00:02:07:06 - 00:02:10:07
Mae gwefan y Grŵp Gwybodaeth yn fan lle gallwch chi edrych ar
00:02:10:07 - 00:02:13:03
wahanol ddatblygiadau o ran ymchwil ac arloesi
00:02:13:03 - 00:02:16:02
a chael gafael ar ddata gofal cymdeithasol.
00:02:16:02 - 00:02:20:14
Gallwch chi sgwrsio â phobl o bob cwr o Gymru ar ein cymunedau ar-lein.
00:02:21:12 - 00:02:23:16
Cipolwg o'r hyn rydyn ni’n ei gynnig yw hyn,
00:02:23:16 - 00:02:26:04
ac rydyn ni’n ychwanegu mwy o adnoddau o hyd.
00:02:26:04 - 00:02:29:13
Felly, cymerwch olwg ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru
00:02:29:13 - 00:02:32:02
i ddysgu rhagor am ein cynnig i gyflogwyr.
00:02:32:06 - 00:02:33:14
Dechreuwch chwilio heddiw
00:02:33:14 - 00:02:36:21
er mwyn darganfod sut y gallwn ni gefnogi eich gweithlu.