Fi yw'r swyddog cyswllt plant
a fy rôl yw mynd i gwrdd â
theuluoedd a phlant yn y cartref teuluol.
Dwi'n ceisio darganfod gymaint a gallaf
am y plentyn,
am ei bersonoliaeth
a'i datblygiad
er mwyn lleddfu trawsnewidiad y
plentyn i'r lleoliad gofal plant.
Enwebais Rachel oherwydd dwi'n credu
ei bod wedi cael effaith mawr dros y deg mis
mae wedi bod yn y swydd.
Mae Rachel yn angerddol iawn am ei swydd
a bob tro wedi'i symbylu.
Mae swydd Rachel yn ymwneud â gosod plant mewn
ond dydy hi ddim dim ond yn gwneud hyn.
Mae'n mynd tu hwnt
bob tro, yn gwneud gwahaniaeth go iawn
i'r teuluoedd a'r plant mae'n cefnogi.
Mae gweithio mewn rôl ofalgar
yn bwysig iawn i fi
achos gallai weithio un wrth un gyda theuluoedd
ac yn agos gyda phlant a theuluoedd.
Weithiau gall deuluoedd gael eu gorlethu.
Gall fod bryderon datblygiadol,
gall fod bryderon ymddygiadol.
Ac wrth weithio mewn rôl ofalgar,
mae yna gyfle
i wneud gwahaniaeth go iawn ym
mywyd rhywun.
Mae Rachel yn mynd yn ddyfnach gyda theulu.
Mae wir yn dod i adnabod y teulu.
Mae'n cymryd y manylyn lleiaf
ac yn ei archwilio'n bellach,
yn gofyn cwestiynau anodd iawn
fel ei bod yn medru
addasu darn o waith
a'r pecyn cymorth ar gyfer y teulu yna.
Rwy'n berson pobl.
Dwi'n hoffi gweithio yn y gymuned
gyda phobl, gyda theuluoedd.
Dwi'n meddwl ei fod yn fy natur
i fwynhau gweithio
mewn rôl feithringar a defnyddiol.