00:00:04:22 - 00:00:07:08
Efallai y bydd angen i chi gynnal ymchwiliad
00:00:07:08 - 00:00:11:18
os oes pryder difrifol yn codi yn y gweithle am ymddygiad cyflogai.
00:00:12:03 - 00:00:15:08
Mae eich ymchwiliad yn bwysig er mwyn gallu pennu’r ffeithiau
00:00:15:08 - 00:00:18:02
a chasglu tystiolaeth i helpu i roi darlun cywir
00:00:18:02 - 00:00:20:18
a gwrthrychol o’r hyn a ddigwyddodd.
00:00:21:08 - 00:00:23:20
Rydyn ni wedi datblygu cyfres o egwyddorion
00:00:23:20 - 00:00:26:00
a allai helpu eich ymchwiliad.
00:00:26:00 - 00:00:30:12
Ni fydd yr egwyddorion hyn yn dweud wrthych sut i gynnal ymchwiliad,
00:00:30:12 - 00:00:32:23
ond maen nhw'n bethau i’w hystyried.
00:00:33:04 - 00:00:36:21
Dylai fod gan eich sefydliad bolisïau a gweithdrefnau clir
00:00:36:21 - 00:00:40:14
i lywio unrhyw ymchwiliadau a phenderfyniadau lleol.
00:00:40:14 - 00:00:44:13
Mae llawer o bryderon yn cael eu rheoli’n well yn fewnol gan gyflogwyr,
00:00:44:13 - 00:00:47:01
oherwydd eu bod yn nes at ffynhonnell y risg
00:00:47:01 - 00:00:50:10
ac felly maen nhw’n gallu eu hadnabod a’u rheoli’n well.
00:00:50:20 - 00:00:53:07
Mae’n bwysig cael cynllun ymchwilio clir
00:00:53:07 - 00:00:56:01
i sicrhau bod yr holl ffeithiau allweddol
00:00:56:01 - 00:00:59:01
yn cael eu hymchwilio a dim ond gwybodaeth berthnasol
00:00:59:01 - 00:01:00:10
sy’n cael ei chasglu.
00:01:00:17 - 00:01:03:08
Mae gan bawb yr hawl i gael eu trin yn deg.
00:01:03:08 - 00:01:07:13
Does dim lle i ymddygiad gwahaniaethol ym maes gofal cymdeithasol.
00:01:07:13 - 00:01:10:17
Mae’n bwysig deall eich cyfrifoldebau cyfreithiol.
00:01:10:17 - 00:01:13:19
Mae pobl â nodweddion gwarchodedig yn cael eu hamddiffyn
00:01:13:19 - 00:01:18:03
yn gyfreithiol rhag gwahaniaethu o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
00:01:18:03 - 00:01:21:04
Wrth adolygu penderfyniadau a chamau gweithredu,
00:01:21:04 - 00:01:25:03
ystyriwch os allai rhagfarn (anymwybodol neu ymwybodol)
00:01:25:03 - 00:01:27:19
neu wahaniaethu fod yn ffactor mewn digwyddiad,
00:01:27:19 - 00:01:31:00
pryder, ymchwiliad neu broses ddisgyblu.
00:01:31:00 - 00:01:34:00
Yna cymerwch gamau i fynd i’r afael â hynny.
00:01:34:00 - 00:01:37:08
Bydd dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn helpu i sicrhau
00:01:37:08 - 00:01:40:17
bod pawb dan sylw yn cael eu trin â pharch ac urddas
00:01:40:17 - 00:01:42:06
drwy gydol y broses.
00:01:42:06 - 00:01:44:08
Bydd hyn yn eu helpu i deimlo’n hyderus
00:01:44:08 - 00:01:46:09
i gymryd rhan yn yr ymchwiliad,
00:01:46:09 - 00:01:49:15
ac i roi darlun agored a gonest o’r hyn a ddigwyddodd.
00:01:49:21 - 00:01:52:03
Gweithredwch yn gyflym ac yn agored.
00:01:52:03 - 00:01:55:04
Dechreuwch eich ymchwiliad cyn gynted â phosibl.
00:01:55:04 - 00:01:58:02
Bydd hyn yn lleihau unrhyw oedi wrth weithredu
00:01:58:02 - 00:02:00:02
a bydd tystiolaeth yn cael ei chasglu
00:02:00:02 - 00:02:02:09
tra ei bod yn ffres ym meddyliau pawb.
00:02:02:09 - 00:02:05:22
Drwy gydol y broses, mae’n bwysig cyfathrebu’n agored
00:02:05:22 - 00:02:07:15
ac yn onest â phawb dan sylw,
00:02:07:15 - 00:02:10:14
gan rannu gwybodaeth lle bo hynny’n briodol.
00:02:10:19 - 00:02:13:24
Cadwch gofnodion o’r holl dystiolaeth a phenderfyniadau
00:02:13:24 - 00:02:16:22
wrth i chi weithio ar eich cynllun ymchwilio.
00:02:16:22 - 00:02:19:01
Bydd tystiolaeth sydd wedi’i chofnodi’n dda
00:02:19:01 - 00:02:22:06
yn cefnogi unrhyw benderfyniadau sy’n cael eu gwneud,
00:02:22:06 - 00:02:24:19
ac mae’n hanfodol ar gyfer apeliadau,
00:02:24:19 - 00:02:28:01
tribiwnlysoedd cyflogaeth a phan fydd atgyfeiriadau wedi
00:02:28:01 - 00:02:32:05
cael eu gwneud i asiantaethau eraill fel tîm addasrwydd i ymarfer
00:02:32:05 - 00:02:36:03
Gofal Cymdeithasol Cymru, yr heddlu neu dimau diogelu.
00:02:36:08 - 00:02:40:16
Bydd dilyn yr egwyddorion hyn yn eich helpu i sicrhau canlyniad teg.
00:02:40:16 - 00:02:42:23
I gael rhagor o wybodaeth ac adnoddau
00:02:42:23 - 00:02:45:21
ar ymchwiliadau a’n proses addasrwydd i ymarfer,
00:02:45:21 - 00:02:52:12
ewch i gofalcymdeithasol.cymru